{{ line_item.variant.extended_name | truncate: max_characters }}
|
{{ line_item.quantity }} |
{{ line_item.total_price | localizeCurrency }}
|
Mae'ch basged yn wag
Ewch â fi i siopa!Platfform anhygoel ydym ar gyfer marchnata cydweithredol, y ffordd hawsaf i'ch aelodau a'ch rhanddeiliaid gyrraedd marchnadoedd newydd. Menter ddielw, fforddiadwy a syml ydym.
Dyma'r rheswm rydym yn codi o'r gwely bob dydd. Sefydliad dielw, byd-eang ydym, a seilir ar egwyddor ffynhonnell agored. Rydym yn chwarae'n deg. Gallwch ymddiried ynom ni bob amser.
Rydym yn gwybod bod gennych chi syniadau mawr, ac rydyn ni am helpu. Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth, ein rhwydweithiau a'n hadnoddau. Rydym yn gwybod nad yw gweithio ar eich pen eich hun yn arwain at newid, felly byddwn yn bartner ichi.
Hwyrach eich bod yn gynghrair o hybiau bwyd, cynhyrchwyr, neu ddosbarthwyr, corff y diwydiant, neu lywodraeth leol.
Beth bynnag fo'ch rôl yn eich mudiad bwyd lleol, rydym yn barod i helpu. Fodd bynnag, byddwch yn myfyrio ar sut olwg fyddai ar y Open Food Network neu'r hyn mae'n ei wneud yn eich ardal leol chi, gadewch i ni agor sgwrs.
Mae angen i chi actifadu a galluogi'ch rhwydweithiau, rydym yn cynnig platfform i sgwrsio a gweithredu. Mae angen ymgysylltu go iawn. Byddwn yn helpu i gyrraedd yr holl chwaraewyr, yr holl randdeiliaid, yr holl sectorau.
Mae angen adnoddau arnoch. Byddwn yn defnyddio ein holl brofiad. Mae angen cydweithrediad arnoch. Byddwn yn creu cysylltiadau gwell ichi â rhwydwaith fyd-eang o bobl ym maes bwyd.
Cysylltwch â ni i ddarganfod beth all y Open Food Network ei wneud i chi:
Anfon e-bost atom